
Mesurau Diogelwch
Bagiau Llaw
Beth sy’n dderbyniol i’w gario drwy’r system ddiogelwch?
Un bag llaw yn unig sy’n dderbyniol i bob teithiwr ei gario drwy System Ddiogelwch y maes awyr, sy’n cynnwys gliniadur, bag neu bwrs. Mae maint bagiau llaw yn amrywio, yn dibynnu ar gwmn?au awyrennau. Cysylltwch â’ch cwmni cyn cychwyn i’r maes awyr, ond ni chaiff y bag llaw fod YN FWY na:
- 56 cm o hyd (tua 22 modfedd)
- 45 cm o uchder (tua 17.5 modfedd)
- 25 cm o ddyfnder (tua 9.85 modfedd)
SYLWER – gall y mesuriadau fod yn llai gan rai cwmniau awyrennau. Cysylltwch â’ch cwmni cyn gadael am y maes awyr i sicrhau nad ydy eich bag llaw yn rhy fawr i gael ei dderbyn ar yr awyren.
Yn ychwanegol, rhoddir caniatâd i bob teithiwr gario un offeryn cerddorol mewn cês.
Mae’n rhaid i bob gliniadur ac unrhyw eitem electronig arall gael eu tynnu o’r bag llaw a’u gosod mewn blwch ar wahân i fynd drwy’r System Ddiogelwch.
Caniateir pramiau a chynorthwyon cerdded, ond fe fyddant yn cael
eu sganio gan belydr x.
Caniateir cadeiriau olwyn, ond fe fyddant yn cael eu harchwilio yn
fanwl.

Hylifau
Rydym yn argymell eich bod yn cario unrhyw hylifau (gan gynnwys gel, pâst, hufen croen, cymysgedd hylif/soled, a cynhwysyddion gwasgeddedig) yn eich cês gan fod rheolau llym ynglyn â’u cario drwy’r System Ddiogelwch.
Os yw’n hanfodol i chi gario’r eitemau hyn drwy’r System Ddiogelwch, ni cheir gario mwy na deg cynhwysydd 100ml mewn bag plastig clir y gellir ei ail selio (gwelir y llun), ac mae’n rhaid ei ddangos ar wahân i’ch bag llaw wrth fynd drwy’r System Ddiogelwch.
Yr unig eithriadau yw meddyginiaeth ar gyfer y daith, gyda Llythyr Meddyg ynghlwm ag ef, neu laeth i fabanod, ac mae’n rhaid i’r rhiant/gwarchodwr ei flasu wrth fynd drwy’r System Ddiogelwch.
![[logo] Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd](/gfx/gfx_cwl_logo.gif)


