
Cwmnïau Awyrennau Gwaharddedig
Rhestr y Gymuned Ewropeaidd o gwmnïau awyrennau sydd wedi eu gwahardd
Ym mis Ionawr 2006 lluniodd Llywodraeth Ewrop restr o gwmnïau awyrennau sydd wedi eu gwahardd rhag hedfan o fewn y Gymuned Ewropeaidd. Mae’n orfodol fod y rhestr hon ar gael i deithwyr pob maes awyr.
Ym Mawrth 2006 cyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd restr o gwmnïau awyrennau sy’n cael eu hystyried yn anniogel, ac felly nid oes gan y cwmnïau hyn hawl i gario teithwyr na chargo o fewn y Gymuned Ewropeaidd. Mae’r rhestr hon yn cael ei hadnewyddu bob 3 mis o leiaf.
Am wybodaeth bellach ac i weld y rhestr ddiweddaraf porwch wefan y Comisiwn Ewropeaidd: http://ec.europa.eu/transport/air_portal/safety/black_list_en.htm
![[logo] Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd](/gfx/gfx_cwl_logo.gif)


