
Cyrraedd/Gadael y Maes Awyr
Ffordd

Mae Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd wedi ei leoli yn Y Rhws ym Mro Morgannwg, 12 milltir i'r gorllewin o Gaerdydd, a 10 milltir o Gyffordd 33 ar yr M4.
Gadewch yr M4 ar Gyffordd 33 a dilynwch arwyddion Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd ar hyd yr A4232, A4050 a'r A4226. Côd post y maes awyr ar gyfer systemau Sat Nav yw CF62 3BD.
Os ydych yn gyrru i Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd, fe welwch fesurau diogelwch ar y ffyrdd cyfagos. Mae'r mesurau hyn yn cynnwys:
- Mynediad i'r man codi/gollwng, y maes parcio arhosiad byr ac os nad ydych wedi archebu lle parcio ymlaen llaw yn y maes parcio arhosiad hir ar hyd y ffordd Ddwyreiniol, Port Road
- Mynediad os ydych wedi archebu lle parcio ymlaen llaw yn y maes
parcio arhosiad hir ar hyd y ffordd Orllewinol, cylchfan
A4226 a B4265.
Gall teithwyr gael eu gollwng o flaen y derfynfa, sy'n gwneud mynediad i'r maes awyr yn hwylus ac yn hawdd i bawb.
Mae'r mannau codi teithwyr yn maes parcio arhosiad byr. Mae hyn yn dilyn canllawiau'r Adran Drafnidiaeth (DfT) sy'n gwahardd unrhyw gerbyd rhag cael ei adael heb neb ynddo neu rhag bod yn aros y tu allan i unrhyw faes awyr trwy Brydain.
Caiff gyrrwyr sy'n dod i gyfarfod a chodi teithwyr aros yn y maes parcio arhosiad byr am ddim am 20 munud.
Mae arwyddion a mesurau diogelwch wedi eu gosod i hysbysu teithwyr o drefn y ffyrdd. Wrth gyrraedd y maes awyr bydd gyrrwyr yn cael dewis dwy lôn, un sy'n arwain at y maes parcio arhosiad byr a'r llall yn arwain at y man gollwng teithwyr o flaen y derfynfa.
Peidiwch â chodi na gollwng neb ar y ffyrdd cyfagos, gan y gallai hynny achosi problemau traffig, a byddai hefyd yn creu mwy o waith cerdded i'ch teithwyr.
Am wybodaeth ynglyn â pharcio yn y maes awyr cliciwch yma
I gael cymorth i drefnu eich taith cliciwch yma

Llogi Car
Mae modd llogi car o Faes Awyr Caerdydd gan dri chwmni
blaenllaw. Gallwch archebu car oddi ar ein gwefan.
Gwelir isod fanylion y cwmn?au a'u hamseroedd agor:
Avis
Avis Rent A Car Ltd,
Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd
Bro Morgannwg
CF62 3BD
Ffôn: 0870 608 6328
Llun-Gwe: 08:30 – 21:30
Sad: 08:00 – 13:00
Sul: AR GAU
Europcar
International Arrivals Hall
Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd
Bro Morgannwg
CF62 3BD
Ffôn: 01446 711924
Llun-Gwe: 08:00 – 21:30
Sad: 09:00 – 16:00
Sul: 13:00 – 21:00
Hertz
Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd
Bro Morgannwg
CF62 3BD
Ffôn: 01446 711722
Llun-Gwe: 08:00 – 21:00
Sad: 09:00 – 12:00
Sul: 16:00 – 20:00
National Alamo
Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd
Bro Morgannwg
CF62 3BD
Ffôn: 01446 719 528
Llun-Gwe 08:00-21:30
Sadwrn 08:00-14:00
Sul 13:30-21:30

CLICIWCH YMA I ARBED ARIAN AR BARCIO TRWY ARCHEBU YMLAEN LLAW
CLICIWCH YMA I ARBED ARIAN AR LOGI CAR TRWY ARCHEBU YMLAEN LLAW

Tacsi

Mae tacsis swyddogol y maes awyr, Checker cars, yn cynnig gwasanaeth 24 awr i gludo teithwyr i’r maes awyr ac oddi yno.
Mae eu swyddfa wedi ei lleoli y tu allan i'r derfynfa gyrraedd.
Mae prisiau’r tacsis swyddogol yn gyson ddydd a nos.Tua £24 ydy cost tacsi o’r maes awyr i ganol Caerdydd.
Gall teithwyr sydd angen cymorth arbennig gael eu cludo at flaen
y derfnyfa gan Checker Cars. Mae tacsis ar gael wedi i chi
gyrraedd, neu gellir trefnu ymlaen llaw trwy e-bostio cardiff@checkercars.com neu
drwy ffonio 01446 711747.
Mae Checker cars ar agor 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
Gwefan www.checkercars.com

Ar y trên

Mae trên yn cysylltu Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd Y Rhws â Chaerdydd Canolog a Phen-y-bont ar Ogwr.
Mae’r trenau’n rhedeg bob awr o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, a
phob dwy awr ar y Sul. Mae bws gwennol (yn rhad ac am ddim i
deithwyr â chanddynt docyn trên dilys) sy’n cario teithwyr o’r
orsaf i derfynfa gyfagos y maes awyr. Mae adnoddau ar gael ar
gyfer
teithwyr sydd angen cymorth arbennig.
Am fwy o wybodaeth ffoniwch 0845 748 49 50 neu porwch y wefan www.arrivatrainwales.co.uk

Ar y bws

Mae gwasanaeth Bws Caerdydd X91 ar gael rhwng Caerdydd (Gorsaf Ganolog) a Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd bob awr yn ystod y dydd o'r Llun i'r Sadwrn, a phob dwy awr ar y Sul a Gwyliau Banc.
Yn ychwanegol, mae bysiau EST ar gael bob awr gyda'r nos o'r Llun i'r Sadwrn, gwasanaeth 95, rhwng Caerdydd (Gorsaf Ganolog) a Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd, gan fynd trwy Y Barri. Am wybodaeth am amseroedd ffoniwch Traveline ar 0870 6082 608.
Gallwch deithio ar unrhyw wasanaeth Bws Caerdydd ar docyn diwrnod ‘plus' y diwrnod hwnnw.
Pris tocynnau X91 rhwng Caerdydd (Gorsaf Ganolog) a Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd:
Un ffordd i Oedolion - £3.40, tocyn diwrnod ‘plus’*
- £3.50
Un ffordd i blentyn - £2.20, tocyn diwrnod ‘plus’*
- £2.30
*gallwch deithio ar bob gwasanaeth BwsCaerdydd ar docyn diwrnod ‘ plus’ y diwrnod hwnnw.
Cliciwch yma i gael amseroedd y gwasanaeth X91 o ddydd Llun i ddydd Gwener
Cliciwch yma i gael amseroedd y gwasanaeth X91 ar ddydd Sadwrn
Cliciwch yma i gael amseroedd y gwasanaeth X91 ar ddydd Sul a Gwyliau Banc
Am fwy o wybodaeth am wasanaethau bws cliciwch yma.

Gwasanaeth bws
Mae cwmni Bws National Express yn cynnig gwasanaeth i Orsaf Fysiau Caerdydd Canolog yn rheolaidd. Am unrhyw wybodaeth ffoniwch: 08705 80 80 80 neu porwch www.nationalexpress.com
Am y wybodaeth ddiweddaraf am drafnidiaeth gyhoeddus trwy Gymru ffoniwch Traveline ar 0870 6082 608 (cost galwadau cenedlaethol)
![[logo] Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd](/gfx/gfx_cwl_logo.gif)


