
Gwybodaeth am Barcio
I arbed arian ac amser, archebwch le parcio ymlaen llaw ym Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd am £3 y diwrnod yn unig.
Cliciwch yma i archebu lle parcio ymlaen llaw (NODER: Bydd y dudalen archebu’n agor mewn ffenestr ar wahân)

Codi a gollwng teithwyr
Gallwch ollwng teithwyr o flaen y derfynfa, ond nid oes modd codi teithwyr modd o flaen y derfynfa. Os ydych yn codi teithwyr, mae gofyn i chi fynd i'r Maes Parcio Arhosiad Byr, sydd yn agos at y derfynfa. Caiff gyrrwyr sy'n dod i gyfarfod a chodi teithwyr aros yn y maes parcio arhosiad byr am awr am £1.00.
Peidiwch â chodi na gollwng neb ar y ffyrdd cyfagos os gwelwch yn
dda, gan y gallai hyn achosi problemau traffig, a hefyd yn golygu
taith bellach i'r teithwyr ar droed.

Parcio am gyfnod byr
Dim ond y rhai sy’n gadael eu ceir yn y maes awyr am amser byr ddylai barcio yn y Maes Parcio Arhosiad Byr. Rhaid talu mwy yma nag yn y maes parcio arhosiad hir.
Wrth gyrraedd y maes parcio, cymerwch docyn wrth y bar a pharciwch yn y llefydd gwag, neu dilynwch gyfarwyddiadau staff NCP. Rhaid talu wrth ddychwelyd gan ddefnyddio’r peiriannau sydd wedi eu lleoli yn y derfynfa gyrraedd. Mae Gwasanaeth Cwsmeriaid NCP hefyd wedi ei leoli yma. Cadwch eich tocyn gyda chi ar eich taith.
Prisiau
Hyd at awr £1.00
Hyd at 2 awr £4.50
Hyd at 3 awr £5.80
Hyd at 4 awr £8.00
Dros 4 awr £11.20

Parcio am gyfnod hir
Dylai teithwyr sy’n gadael eu car yn y maes awyr am fwy na diwrnod ddefnyddio’r maes parcio hwn.
Arbedwch hyd at 57% trwy archebu lle ymlaen llaw yn y Maes
Parcio Arhosiad Hir. Archebwch ar-lein trwy glicio yma.
(Noder: Bydd hyn yn agor ffenestr newydd).
Cymerwch docyn wrth y polyn wrth gyrraedd y maes parcio, a pharcio yn y lle gwag cyntaf, neu ym mhle bynnag y mae staff NCP yn eich cyfeirio.
Os ydych wedi archebu eich lle parcio ymlaen llaw, gofalwch eich bod yn mynd at y ddesg NCP yn y Derfynfa Gyrraedd gyda’r tocyn a chadarnhad o’ch archeb neu gyfeirnod CYN dychwelyd i’ch car ar ddiwedd eich taith.
Rhybudd: peidiwch â rhoi eich cerdyn credyd/debyd yn y peiriant os ydych wedi talu ymlaen llaw, rhag ofn i chi orfod talu ddwywaith.
Fel arall rhaid talu ‘ar droed’ am eich lle parcio ar ddiwedd eich taith yn y peiriannau sydd yn y derfynfa gyrraedd. Gofalwch gadw eich tocyn trwy gydol y daith.
Mae bysiau gwennol ar gael yn ystod yr haf i gludo teithwyr at ddrws y derfynfa.
• Gallwch barcio am £2.73 y diwrnod
• Gallwch arbed hyd at 57% drwy archebu ymlaen llaw yn hytrach na thalu ar y diwrnod
• Mae’r prisiau diweddaraf yn golygu y gall teithwyr arbed hyd at £37.20 ar barcio
• Gallwch barcio benwythnos cyfan am £14 yn unig
Prisiau'r Maes Parcio Arhosiad Hir
Prisiau parcio yn y Maes Parcio Arshosiad Hir:
Hyd at 1 diwrnod £14.00
Hyd at 2 ddiwrnod £20.00
Hyd at 3 diwrnod £28.00
Hyd at 4 diwrnod £34.50
Hyd at 5 diwrnod £36.00
Hyd at 6 diwrnod £43.00
Hyd at 7 diwrnod £46.00
Hyd at 8 diwrnod £51.00
Hyd at 9 diwrnod £57.00
Hyd at 10 diwrnod £63.00
Hyd at 11 diwrnod £70.00
Hyd at 12 diwrnod £75.00
Hyd at 13 diwrnod £79.00
Hyd at 14 diwrnod £85.00
Hyd at 15 diwrnod £75.50
15 diwrnod neu fwy £4.50 am bob diwrnod ychwanegol

Parcio i deithwyr busnes
Y Maes Parcio Busnes yw’r opsiwn hwylusaf a chyflymaf i deithwyr busnes.
Dylai teithwyr busnes ddefnyddio mynedfa’r Maes Parcio Arhosiad Byr, cymryd tocyn a pharcio yn y lle gwag cyntaf, neu ym mhle bynnag y mae staff NCP yn eich cyfeirio.
Rhaid talu ‘ar droed’ ar ddiwedd y daith yn y peiriannau sydd yn y derfynfa gyrraedd. Gofalwch eich bod yn cadw eich tocyn trwy gydol y daith.
Mae modd talu hefyd â cherdyn credyd wrth adael y maes parcio i osgoi oedi wrth y peiriannau yn y derfynfa gyrraedd. Rhowch eich cerdyn credyd/debyd yn y blwch wrth fynd i mewn i’r maes parcio ar ddechrau eich taith, ac yna rhowch yr un cerdyn yn y blwch wrth fynd allan ar ddiwedd eich taith. Bydd derbynneb yn cael ei phrintio, a’r polyn yn codi i’ch gadael allan o’r maes parcio.
Mae llefydd parcio arbennig i deithwyr sy’n dal tocyn KLM wedi eu lleoli yn nhu blaen y Maes Parcio Busnes. Defnyddiwch fynedfa’r Maes Parcio Arhosiad Byr unwaith eto i’w cyrraedd.

Parcio i deithwyr anabl
Mae’r maes awyr wedi ymrwymo i hwyluso taith pobl sydd angen cymorth arbennig. Mae mannau penodol wedi eu neilltuo yn y meysydd parcio arhosiad byr a hir. Mae botwm cymorth ar gael wrth fynd i mewn ac allan o bob maes parcio, a dylai teithwyr sydd angen cymorth arbennig ei bwyso os ydynt am gael sylw aelod o staff. Mae ramp yn arwain o’r maes parcio arhosiad byr/busnes i’r brif derfynfa.
Mae’r prisiau yr un fath â phrisiau arferol y maes parcio arhosiad byr a hir
![[logo] Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd](/gfx/gfx_cwl_logo.gif)


