
Siopa
WH Smith

Mae WH Smith yn gwerthu dewis eang o bapurau newydd,llyfrau, byrbrydau, anrhegion, tobaco a melysion. Mae dwy siop yn y maes awyr, un ar lawr cyntaf y brif derfynfa, a’r llall yn y lolfa ymadael.

Siop deithio

Os yn chwilio am fargen a phrisiau cystadleuol, mae’n rhaid i chi ymweld â chanolfan siopa Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd, sydd yn syth wedi i chi fynd drwy’r System Ddiogelwch.
Mae’r Siop Deithio Ddi-dreth a Di-doll sydd yn y lolfa ymadael
yn cynnig amrywiaeth o bersawr, colur, melysion, dillad a nwyddau
electronig i bob teithiwr, ac mae diodydd alcoholaidd di-doll a
thobaco ar gael i bobl sy’n teithio y tu allan i’r UE. Mae’r adran
electronig yn gwerthu’r nwyddau diweddaraf gan Sony, Apple a
chwmnïau blaenllaw eraill yn y maes digidol ac optig. Bydd
arbenigwyr ar gael i’ch cynghori.

Canolfan electronig

Mae’r adran electronig yn gwerthu’r nwyddau diweddaraf gan
Sony, Apple a chwmnïau blaenllaw eraill yn y maes digidol ac optig.
Bydd arbenigwyr ar gael i’ch cynghori.

Bag Boutique
Mae Bag Boutique yn cynnig amrywiaeth o fagiau ffasiynol,esgidiau, bagiau teithio, gemwaith ac atodiadau i bob teithiwr. Gall y staff roi cyngor arbenigol ar y cynnyrch mwyaf addas i’r cwsmer.

Bancio a Bureau de Change

Mae Bureau de Change The Change Group wedi ei leoli ar lawr cyntaf y derfynfa at ddefnydd pawb sy’n hedfan dramor o’r maes awyr. Mae’n cynnig gwasanaeth cyfnewid arian cyflym yn ogystal â sieciau teithio. Gellir talu mewn amrywiaeth o ffyrdd.
Mae The Change Group hefyd yn cynnig gwasanaeth Bureau de Change yn y neuadd gasglu bagiau fel bod teithwyr sy’n cyrraedd yn gallu cyfnewid arian tramor a sieciau teithio. Mae’r gwasanaeth ar gael ar gyfer pawb sy’n cyrraedd o wlad dramor.
Peiriant “Twll yn y wal”
Mae peiriannau twll yn y wal ar gael ar y llawr cyntaf y derfynfa.

Ardal gemau

Mae dwy ardal ar gyfer gemau yn y maes awyr – un ger y Ddesg Wybodaeth a’r llall yn y lolfa ymadael.
![[logo] Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd](/gfx/gfx_cwl_logo.gif)


