
Lolfa Foethus 51°

Mae’r Lolfa 51° yn ddelfrydol i ymlacio ac i orffen y gwaith papur. Mae’r lolfa ar gael i deithwyr busnes a hamdden, ac mae rhai cwmnïau awyrennau yn cynnig y gwasanaeth yn rhad ac am ddim i gwsmeriaid dosbarth busnes. £18 yn unig ydy aelodaeth diwrnod i bawb arall.
Yno ceir cyfleusterau ar gyfer busnes, megis ffacs, dyblygwr,
ffôn a gwasanaeth rhyngrwyd di-wifr. Beth am gael golwg ar y
newyddion diweddaraf ar ein teledu
sgrin-lydan neu bori trwy’r amrywiaeth o gylchgronau a phapurau
newydd? Gallwch wneud hyn tra’n mwynhau diod poeth neu oer a
thamaid i’w fwyta. Yn ogystal, mae gwasanaeth ar gael ar gyfer
teithwyr sydd angen cymorth arbennig.
Gall aelodau fanteisio ar:
- Diodydd alcoholaidd a di-alcohol
- Papurau newydd a chylchgronau
- Cyfleusterau ffôn, ffacs a dyblygwr
- Ffrwythau ffres
- Byrbrydau
- Teledu digidol sgrin-lydan
- Gwasanaeth rhyngrwyd di-wifr
Mae’r lolfa ar agor o 5am tan 9pm, ac eithrio pob dydd Sadwrn rhwng Tachwedd ac Ebrill, pan fydd yn cau am 5pm, a dydd Nadolig, dydd Gwyl San Steffan a dydd Calan.
Dylid gwisgo’n daclus i gael mynediad i’r Lolfa, ac ni chaniateir blant o dan 12 oed.
Mae aelodaeth ar gael am £18.00
Cliciwch yma i agor ffenestr newydd fydd yn eich galluogi i archebu lle yn y lolfa foethus 51°
![[logo] Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd](/gfx/gfx_cwl_logo.gif)


