
Bwyta ac Yfed
Y Pentref Bwyd

Mae’r Pentref Bwyd, sydd yn yr adran fwyd ar lawr cyntaf y derfynfa, yn cynnig dewis eang, gan gynnwys brechdanau, byrbrydau, bwyd poeth a diodydd.

Burger King

Mae Burger King hefyd yn yr adran fwyd, ger y Pentref Bwyd.

Bar y Scrum Half

Mae Bar y Scrum Half ar y llawr cyntaf ar agor yn ystod yr oriau trwyddedig arferol i deithwyr sy’n hedfan o’r maes awyr. Cewch ddewis helaeth o ddiodydd alcoholaidd a dialcohol yno.

Café Ritazza

Mae Café Ritazza yn y lolfa ymadael yn cynnig amrywiaeth o ddiodydd poeth ac oer, cacennau blasus a dewis eang o de a choffi.

Yr Echo Bar

Mae’r Echo Bar yn y lolfa ymadael yn fywiog ac yn fodern gyda golygfa dros arosfan yr awyrennau. Mae’r wal fideo yn chwarae’r gerddoriaeth ddiweddaraf a cheir yno ddewis llawn o ddiodydd alcoholaidd a di-alcohol, yn ogystal â bwydlen gynhwysfawr.
![[logo] Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd](/gfx/gfx_cwl_logo.gif)


