
Cyfleusterau ar gyfer Teithwyr â Symudedd Cyfyngedig
Cyfleusterau ar gyfer Teithwyr â Symudedd Cyfyngedig
Mae Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd wedi’i ymrwymo i ddarparu cymorth i deithwyr â symudedd cyfyngedig yn ystod eu cyfnod yn y maes awyr, o’r adeg pan fyddant yn cyrraedd nes byddant yn mynd ar yr awyren, ac o’r adeg pan fyddant yn dod oddi ar yr awyren nes byddant yn gadael y maes awyr.
Mae’r cyfleusterau canlynol ar gael:
- Tri man galw cymorth arbennig yn y meysydd parcio a thu allan i brif fynedfa y derfynfa
Gall teithwyr ddefnyddio’r mannau galw hyn i roi gwybod eu bod wedi cyrraedd.
- Derbynfa cymorth arbennig yn y neuadd gofrestru
Cesglir gwybodaeth berthnasol er mwyn penderfynu faint o gymorth fydd ei angen ar y teithwyr, a bydd yr holl broses yn cael ei hegluro yma.
- Cymorth i deithwyr sy’n hedfan o’r maes awyr
Gall teithwyr sy’n hedfan o’r maes awyr ac y mae angen cymorth arbennig arnynt gael cymorth wrth gofrestru, wrth fynd drwy'r System Ddiogelwch, yn y lolfa ymadael ac wrth fynd ar yr awyren.
- Cymorth i deithwyr sy’n hedfan yn ôl i’r maes awyr
Gall teithwyr sy’n hedfan yn ôl i’r maes awyr ac y mae angen cymorth arbennig arnynt gael cymorth i ddod oddi ar yr awyren, i fynd drwy’r rheolaeth pasbort, y tollau a’r neuadd gasglu bagiau.
- Cymorth i’r maes parcio neu at drafnidiaeth gyhoeddus ar y ffordd wrth ddychwelyd
Gall teithwyr gael cymorth i fynd at y mannau cymorth arbennig yn y meysydd parcio neu at y cyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus sydd ar gael.
Rydym yn argymell i deithwyr archebu’r gwasanaeth hwn ymlaen llaw gyda’u cwmni neu eu hasiantaeth deithio, neu yn uniongyrchol â ni trwy ffonio 01446 729329 neu anfon e-bost i PRMDesk@cwl.aero
I gael gwybodaeth am y ddeddf newydd i Deithwyr â Symudedd Cyfyngedig ewch i wefan y Comisiwn Ewropeaidd drwy glicio yma; gwefan y CAA (Civil Aviation Authority) drwy glicio yma neu wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol drwy glicio yma.

Mae'r cyfleusterau canlynol hefyd ar gael:
- Mannau parcio wedi eu neilltuo a lloches arbennig yn y man codi/gollwng teithwyr
- Pafin isel wrth fynd i mewn ac allan o’r derfynfa
- Gellir gollwng teithwyr y tu allan i'r brif derfynfa
- Cadeiriau olwyn ar gael trwy’r derfynfa. Gall teithwyr ddefnyddio eu cadeiriau olwyn eu hunain nes byddant yn mynd ar yr awyren; cysylltwch â’ch cwmni awyrennau
- Lifft rhwng bob llawr
- Toiledau arbennig ar y llawr cyntaf, y lolfa ymadael a’r derfynfa gyrraedd
- Man aros arbennig yn y lolfa ymadael gyda ffôn isel am ddim, sgrîn wybodaeth am awyrennau a chylchwifren
- Mynediad cyflym drwy'r System Ddiogelwch
- Gwasanaeth minicom ar gyfer y byddar a’r trwm eu clyw yn y Ddesg Wybodaeth
- Cylchwifrau wrth gofrestru ac mewn mannau eraill
- Gwybodaeth am awyrennau ar sgriniau ynghyd â chyhoeddiadau llafar
- Ffonau ar lefel isel ar hyd a lled y derfynfa
- Lifft arbennig i fynd ar yr awyren
- Gwybodaeth am gyfleusterau ar gyfer teithwyr â symudedd cyfyngedig a bwydlenni mewn Braille.
![[logo] Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd](/gfx/gfx_cwl_logo.gif)


