
Cyfleusterau ar gyfer Teithwyr sydd angen Cymorth Arbennig
Mae gan Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd ymrwymiad i deithwyr sydd angen cymorth arbennig ac mae wedi’i gynllunio i wneud y profiad o deithio yn ddi-drafferth a rhwydd. Gadewch i’ch asiantaeth deithio wybod wrth drefnu eich gwyliau am unrhyw anghenion arbennig.
Ymhlith y cyfleusterau mae:
- Mannau parcio wedi eu neilltuo a lloches arbennig yn y man codi/gollwng teithwyr
- Pafin isel wrth fynd i mewn ac allan o’r derfynfa
- Cadeiriau olwyn ar gael trwy’r derfynfa. Gall teithwyr ddefnyddio eu cadeiriau olwyn eu hunain nes byddant yn mynd ar yr awyren; cysylltwch â’ch cwmni awyrennau
- Lifft rhwng bob llawr
- Toiledau arbennig ar y llawr cyntaf, y lolfa ymadael a’r derfynfa gyrraedd
- Man aros arbennig yn y lolfa ymadael gyda ffôn isel am ddim, sgrîn wybodaeth am awyrennau a chylchwifren
- Gwasanaeth mynediad cyflym drwy’r System Ddiogelwch
- Gwasanaeth minicom ar gyfer y byddar a’r trwm eu clyw yn y Ddesg Wybodaeth
- Cylchwifrau wrth gofrestru ac mewn mannau eraill
- Gwybodaeth am awyrennau ar sgriniau ynghyd â chyhoeddiadau llafar
- Ffonau ar lefel isel ar hyd a lled y derfynfa
- Lifft arbennig i fynd ar yr awyren
- Lloches ar gyfer teithwyr mewn cadeiriau olwyn yn safle cymorth arbennig y maes parcio arhosiad byr. Gall teithwyr sydd angen cymorth arbennig gael eu cludo i’r derfynfa gan fws gwennol o’r safle yma.
Cliciwch yma am restr o gyrff ac asiantaethau a all gynorthwyo teithwyr sydd angen cymorth arbennig.
![[logo] Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd](/gfx/gfx_cwl_logo.gif)


