
A-Y o Gyfleusterau a Gwasanaethau
Anifeiliad
Ni chanieteir unrhyw anifail yn y derfynfa ac eithrio cwn tywys. Cysylltwch â’ch cwmni awyrennau os ydych yn dymuno mynd ag anifail ar awyren.

Ardal Gemau
Mae dwy ardal ar gyfer gemau yn y maes awyr – un cyn mynd drwy’r System Ddiogelwch a’r ail yn y lolfa ymadael.

Ardaloedd Ysmygu
Ni chaniateir ysmygu yn unman ym Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd.

Bagiau
Mae'r bagiau y canieteir eu cario ar awyrennau rheolaidd a siarter yn amrywio. Cysylltwch â'ch asiantaeth deithio neu eich cwmni awyrennau cyn teithio i'r maes awyr.
Dylech rybuddio’r cwmni awyrennau, asiantaeth trin y cesus neu eich asiantaeth deithio ymhell o flaen dyddiad eich taith os oes gennych gês mawr iawn neu gês siâp anarferol. Dylech hefyd ganiatau mwy o amser i gofrestru.
CESUS WEDI EU COFRESTRU
Am resymau diogelwch mae’r eitemau canlynol wedi eu gwahardd oddi ar bob awyren, naill ai mewn cês NEU fag llaw:
• Cetris nwy/Cetris wedi’u hadlenwi
• Tanwydd ysmygu
• Bwledi
• Asid
• Paent
• Ffrwydron
• Gynnau (gan gynnwys teganau)
• Arfau
• Cyllyll
• Mercwri
• Deunyddiau ymbelydrol
• Gwenwynau
• Ces briff â larwm.
• Deunyddiau ocsideiddol

Bagiau Llaw
Mae Adran Drafnidiaeth y Llywodraeth wedi cyhoeddi newidiadau ym mesurau diogelwch nifer o feysydd awyr ledled Prydain, gan gynnwys Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd.
Mae hyn yn golygu y bydd y cyfyngiadau ar fagiau llaw yn cael eu llacio o 7 Ionawr 2008, ac y bydd gan deithwyr sy'n hedfan o Gaerdydd hawl i gario mwy nag un bag llaw gyda hwy ar yr awyren.
Serch hynny, mae gan gwmnïau awyrennau eu polisïau eu hunain ynglyn â nifer y bagiau llaw y canieteir eu cario ar yr awyren.
Rydym yn eich cynghori felly i gysylltu â'ch cwmni awyrennau cyn hedfan i wybod yn union beth yw'r rheolau ynglyn â chario bagiau llaw ar eich taith.
Pwysleisir nad oes newid i'r cyfyngiadau wrth gario hylifau drwy'r system ddiogelwch.
Mae maint bagiau llaw yn amrywio, yn dibynnu ar gwmnïau awyrennau. Cysylltwch â'ch cwmni cyn cychwyn i'r maes awyr, ond ni chaiff y bag llaw fod YN FWY na:
- 56 cm o hyd
- 45 cm o uchder
- 25 cm o ddyfnder
Dyma’r bag mwyaf y mae hawl ei gario drwy’r System Diogelwch. Fe allai eich cwmni awyrennau fynnu bagiau llai. Cysylltwch â’r cwmni, neu porwch wefan y maes awyr am fwy o wybodaeth.
Rhaid i bob bag arall gael ei gario O FEWN i’r un bag llaw. Mae
pob eitem sy’n cael ei gario gan deithwyr yn cael ei sganio gyda
phelydr X. Gellir gadael camerâu (gan gynnwys rhai digidol),
eitemau electronig bychain megis ffonau symudol,
chwaraewyr MP3 a gemau cyfrifiadurol yn y bag i gael eu sganio.
Serch hynny, rhaid tynnu gliniaduron ac eitemau electronig mawr o’r
bag a’u gosod ar wahân.
Rydym yn argymell eich bod yn cario unrhyw hylifau na fydd arnoch eu hangen yn ystod y daith yn eich cês. Serch hynny, os yw’n hanfodol i chi gario hylif ar yr awyren, sylwch fod y cyfyngiadau isod ar bob hylif sy’n cael ei gario drwy’r System Ddiogelwch:
Mae’n rhaid i bob hylif gael ei gario mewn cynhwysydd unigol nad
yw’n dal mwy na 100ml.
Rhaid eu cario mewn un bag plastig clir sydd heb fod yn fwy na 20cm
x 20cm (8” x 8”) ac y gellir ei ail-selio. Rhaid gallu cau’r bag
plastig yn hwylus
Caniateir un bag i bob teithiwr. Rhaid i’r bag fod yn un clir y
gellir ei ail-selio naill ai gyda sip neu drwy ei wasgu i’w
selio.
Ni chaniateir bagiau mwy neu fagiau na ellir eu selio megis bagiau
brechdanau
Rhaid tynnu’r bag plastig clir o’r bag llaw er mwyn ei sganio â
phelydr X
Rhaid pacio unrhyw hylif sydd mewn cynhwysydd mwy na 100ml yn eich
cês
Gall unrhyw hylif gael ei brofi ar hap wrth fynd drwy’r System
Ddiogelwch
Yr unig eithriadau yw meddyginiaeth ar gyfer y daith, gyda Llythyr
Meddyg ynghlwm ag ef, neu laeth i fabanod, ac mae’n rhaid i’r
rhiant/gwarchodwr ei flasu wrth fynd drwy’r System Ddiogelwch.
Mae unrhyw gel, pâst, hufen croen, cymysgedd hylif/soled, a cynhwysyddion gwasgeddedig yn cael eu hystyried yn hylifau, er enghraifft past dannedd, gel gwallt, diodydd, cawl, persawr, diarogleuwr, sebon eillio, erosol ac ati.
Mae teithwyr hefyd yn cael eu rhybuddio na cheir cario yr
eitemau canlynol ar yr awyren mewn bag llaw:
• Gynnau ffug
• Catapyltiau
• Llafnau rasel
• Offer crefftwyr
• Dartiau
• Sisyrnau
• Gweill
• Cyllyll – gan gynnwys cyllyll poced a chyllyll cegin
• Batiau chwaraeon, ciwiau pˆwl, snwcer a biliards
• Ffeil ewinedd, tynnwr corcyn nac unrhyw offeryn miniog arall.

Bancio a Bureau de Change
Mae Bureau de Change The Change Group wedi ei leoli ar lawr cyntaf y derfynfa at ddefnydd pawb sy’n hedfan dramor o’r maes awyr. Mae’n cynnig gwasanaeth cyfnewid arian cyflym yn ogystal â sieciau teithio.
Gellir talu mewn amrywiaeth o ffyrdd, a gellir archebu arian tramor ar-lein a’i gasglu yn y maes awyr.
Mae The Change Group hefyd yn cynnig gwasanaeth Bureau de Change yn y neuadd gasglu bagiau fel bod teithwyr sy’n cyrraedd yn gallu cyfnewid arian tramor a sieciau teithio. Mae’r gwasanaeth ar gael ar gyfer pawb sy’n cyrraedd o wlad dramor.
Am fwy o wybodaeth neu i archebu ymlaen llaw ffoniwch 01446 719523, ffacsiwch 01446 719525
.

Canolfan Chwarae
Mae canolfan chwarae yn y lolfa ymadael ar gyfer teithwyr ifanc. Mae gofyn i rieni oruwchwylio eu plant tra’u bod yn mwynhau’r chwarae.
Mae meithrinfa leol o’r enw 'Passport to Play' yn noddi’r ganolfan chwarae.

Canolfan Groeso
Mae Canolfan Groeso yn y derfynfa gyrraedd. Mae gwybodaeth lawn am atyniadau Cymru ar gael yma.
Cliciwch yma i gael gwybodaeth bellach am dwristiaeth yng Nghymru.

Capel
Mae Capel wedi ei leoli ar lawr cyntaf y derfynfa, gyferbyn â Burger King.

Cofrestru
Mae 25 desg gofrestru ar gyfer teithiau mewnol a rhyngwladol wedi eu lleoli ar lawr gwaelod y brif derfynfa.
Dylai teithwyr gysylltu â'r cwmni awyrennau ynglyn ag amseroedd
cofrestru. Yn gyffredinol dylid cofrestru o leiaf 2 awr cyn gadael,
ond rydym yn eich cynghori i gadarnhau gyda'r cwmni awyrennau neu'r
asiantaeth deithio gan y gall yr
amseroedd hyn newid.
Bydd gwybodaeth ychwanegol yn cael ei chasglu am deithwyr sy’n hedfan i unrhyw le yn Sbaen (APIS) ond ni fydd hyn yn peri mwy o oedi gan i’r wybodaeth gael ei chasglu wrth wirio'r pasbort tra'n cofrestru.
Mae cynrychiolwyr o bob cwmni awyrennau neu gwmni teithio mawr sy’n hedfan o Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd yn y neuadd gofrestru os oes arnoch angen codi tocynnau, cymorth wrth gofrestru neu unrhyw ymholiadau cyffredinol.
Mae sgriniau yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am awyrennau sy’n gadael i’w gweld yn glir.

Cyfleusterau ar gyfer babanod
I’r rhai sy’n teithio â babanod, mae stafelloedd arbennig, preifat a chyfforddus ar gael, sy’n cynnwys byrddau newid clytiau. Mae’r stafelloedd hyn ar gael bob amser, ac wedi eu lleoli yn y lolfa ymadael a’r derfynfa gyrraedd. Gellir prynu llaeth ar gyfer babanod. Gellir cynhesu bwyd babanod yn y Pentref Bwyd cyn mynd drwy’r System Ddiogelwch, ac yn y lolfa ymadael.

Cyfleusterau ar gyfer pobl anabl
Cliciwch yma i gael gwybodaeth am gyfleusterau ar gyfer teithwyr sydd angen Cymorth Arbennig.

Cyngor Diogelwch
- Peidiwch byth â gadael cesus neu eiddo personol heb eu goruchwylio. Byddant yn cael eu symud ac o bosib, eu difa. Dylid rhybuddio aelod o’r staff os gwelwch unrhyw eiddo sydd heb ei oruchwylio.
- Dylech bob amser ddefnyddio eich bag eich hun gan ofalu ei bacio eich hun.
- Dylech bob amser ateb pob cwestiwn am eich bagiau wrth
gofrestru. Mae’r drefn yma yn holl bwysig ac yno er mwyn eich
diogelwch chi. Gallai unrhyw sylwadau anaddas olygu na fyddwch yn
cael mynd ar yr awyren. Mae’n drosedd i ddatgan
manylion celwyddog. - Peidiwch byth â chofrestru bagiau pobl eraill.
- Peidiwch byth â chario dim byd i’r awyren ar ran rhywun arall.
- Dylai eich enw a’ch chyfeiriad cartref fod y tu mewn i’ch cesus, ynghyd â’ch enw a manylion pen eich taith ar y tu allan.
- Dylech ddal eich gafael mewn arian, gemwaith, camerâu a phethau gwerthfawr eraill – peidiwch â’u rhoi yn y cesus sy’n cael eu cofrestru.
- Dylech gario sieciau teithio a chardiau credyd yn hytrach na symiau sylweddol o arian parod.
- Byddwch yn ymwybodol o’r cyfyngiadau wrth gario bagiau llaw drwy System Ddiogelwch y maes awyr.
- Mae’n rhaid i bob hylif gael ei gario mewn cynhwysydd unigol nad yw’n dal mwy na 100ml. RHAID eu cario mewn UN bag plastig clir y gellir ei ail-selio nad yw’n dal MWY na un litr.

Desg Wybodaeth
Mae’r Ddesg Wybodaeth wedi ei lleoli ar lawr cyntaf y prif derfynfa cyn mynd drwy’r System Ddiogelwch, ac ar gael i bawb sy’n gadael neu’n cyrraedd y maes awyr. Mae’r staff cyfeillgar yn rhoi gwybodaeth am deithiau hedfan, yn ogystal â thrafnidiaeth lleol a llety.

Eiddo Coll
Dylai nwyddau sy’n cael eu canfod gael eu rhoi i aelod o staff diogelwch neu i staff y ddesg wybodaeth. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglyn ag eiddo sydd wedi mynd ar goll cysylltwch â’r ddesg wybodaeth ar: 01446 711111. Os ydych wedi gadael eiddo ar yr awyren, cysylltwch â’r cwmni awyrennau, cwmni teithio neu’r cwmni sy’n gyfrifol am yr awyren yn y maes awyr.

Ffacsio a Llungopïo
Mae cyfleusterau ar gyfer ffacsio a llungopïo ar gael wrth y Ddesg Wybodaeth ar lawr cyntaf y derfynfa.

Ffonio
Mae ffonau cyhoeddus ar gael yn y brif derfynfa ac yn y derfynfa gyrraedd.

Gwasanaeth Gadael Bagiau
Am resymau diogelwch nid oes man i adael bagiau ym Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd.

Gwestyau
Mae gwesty’r Holiday Inn Express yn agos at derfynfa’r maes awyr, ac mae bysiau gwennol ar gael i’ch cludo yno. Mae prisiau yn dechrau ar £49 am ystafell. I archebu ystafell, ffoniwch 01446 711 117 neu porwch www.exhicardiffairport.co.uk
Am restr gyflawn a mwy o wybodaeth am lety, cysylltwch â’r ddesg wybodaeth sydd ar lawr cyntaf y derfynfa.

Lifftiau
Mae llifftiau wedi eu lleoli yn yr neuadd gofrestru sy’n eich cludo i lawr cyntaf y derfynfa.

Lolfa Foethus
Mae’r Lolfa foethus 51° wedi ei lleoli yn y lolfa ymadael. yn ddelfrydol i ymlacio ac i orffen y gwaith papur. Mae rhai cwmnïau awyrennau yn cynnig y gwasanaeth yn rhad ac am ddim i gwsmeriaid dosbarth busnes. £18 yn unig ydy aelodaeth diwrnod i bawb arall.
Beth am gael golwg ar y newyddion diweddaraf ar ein teledu sgrin-lydan neu bori trwy’r amrywiaeth o gylchgronau a phapurau newydd? Gallwch wneud hyn tra’n mwynhau diod poeth neu oer a thamaid i’w fwyta.
Mae’r lolfa ar agor fel arfer o 5am tan 9pm. Dylid gwisgo’n daclus i gael mynediad i’r Lolfa, ac mae cyfleusterau ar gyfer teithwyr sydd angen Cymorth Arbennig ar gael.
Cliciwch yma am wybodaeth bellach.

Llogi ceir
Mae’r cwmnïau llogi ceir isod yn y maes awyr:
Avis
+44 (0)1446 719 569
Europcar
+44 (0)1446 711 924
Hertz
+44 (0)1446 711 722
National Alamo
+44 (0)1446 719 528
Cliciwch yma i logi car, fydd yn agor ffenestr newydd.

Offer Ffotograffiaeth
Rydym yn cynghori teithwyr i gario ffilm heb ei datblygu yn eu bag llaw, yn hytrach nac yn eu cês. Gall ffotograffwyr sydd am gario ffilmiau proffesiynol (ISO 800 ac uwch) gyda hwy wneud trefniadau arbennig gyda’r cwmni awyrennau neu’r maes awyr cyn teithio. Gan amlaf gall ffilmiau proffesiynol gael eu harchwilio â llaw, ond y goruchwyliwr diogelwch fydd â’r gair olaf os yw’n penderfynu nad yw hynny’n bosibl.

Peiriant “Twll yn y wal”
Mae peiriannau twll yn y wal ar gael ar y llawr cyntaf ac yn y derfynfa gyrraedd.
Mae peiriant Travelex hefyd wedi ei leoli yn y lolfa ymadael. Mae’n derbyn y rhan fwyaf o gardiau credyd ac yn rhoi dewis o’r Ewro neu’r Bunt.

Postio
Mae blwch postio i’w gael yn union y tu allan i’r derfynfa. Gellir prynu stampiau yn World News ar y llawr cyntaf.

Siop Deithio Di-Dreth a Di-doll
Mae ystod eang o nwyddau ar gael yn y Siop Deithio Di-dreth a Di-doll, sydd yn y lolfa ymadael ac yn cael ei rhedeg gan gwmni Nuance , ar gyfer teithwyr sy’n teithio i wledydd y tu allan i’r UE. Mae nwyddau megis gwinoedd, gwirodydd, sigarennau, tobacco a sigarau ar gael. Mae nwyddau megis persawr, colur, siocled, cryno ddisgiau, eitemau electronig, gwisgoedd nofio, sbectol haul, gemwaith, oriawr ac anrhegion ar werth i bawb, ble bynnag y maent yn hedfan, am brisiau di-dreth.

Siopau
Cliciwch yma am wybodaeth am y siopau sydd ar gael yn y maes awyr.

Tacsi
Mae tacsis swyddogol y maes awyr, Checker cars, wedi eu lleoli y tu allan i'r derfynfa gyrraedd, ar y dde wrth adael yr adeilad. Mae modd archebu tacsi ar ôl cyrraedd, neu gellir archebu ymlaen llaw trwy e-bostio cardiff@checkercars.com neu ffonio +44 (0)1446 711747.
Mae Checker cars ar agor 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos.

Toiledau
Mae toliedau cyhoeddus ar gael ar lawr cyntaf y derfynfa cyn mynd drwy’r System Ddiogelwch, ac yn y lolfa ymadael. Mae yna doiledau ar gael yn y derfynfa gyrraedd hefyd.

Tollau
Os ydych yn cario llawer iawn o alcohol neu dobaco yn ôl gyda chi ar ôl bod dramor, mae’n bosibl i'r Swyddogion Tollau holi pam.
Siopa o fewn yr UE: yn cynnwys Awstria, Gwlad
Belg, Denmarc, Ffindir, Ffrainc, Yr Almaen, Groeg, Gweriniaeth
Iwerddon, Yr Eidal, Luxemburg, yr Iseldiroedd, Portiwgal, Sbaen (ar
wahân i Ynysoedd Canarïa), Sweden a’r Deyrnas Unedig (ar wahân i
Gibraltar a Ynysoedd y Sianel) yn caniatáu i chi gario:
- 3200 Sigaretau
- 200 Sigarau
- 110 Litr o Gwrw
- 90 Litr o win
- 400 Sigarilos
- 3kg o faco i’w ysmygu
- 10 Litr o wirodydd
- 20 Litr o win cadarn (e.e. Port neu Sheri)
Byddwch yn ymwybodol mai cyfraith yr UE yw’r cyfyngiadau hyn. Nid oes cyfyngiadau absoliwt os ydych yn cael eich stopio, ac mae’n bosibl y bydd swyddogion tollau yn holi cwestiynau megis pa mor aml ydych yn teithio, pam eich bod wedi prynu’r nwyddau a faint a pa fath o nwyddau ydych wedi eu prynu.
Siopa y tu allan i’r UE: Mae Ynysoedd Canarïa yn caniatáu i chi brynu:
- 200 Sigaretau neu 100 sigarilos, neu 50 sigarau, neu 250 gram o dobaco
- 2 Litr o win cyffredin
- 1 Litr o wirodydd cryfion sydd dros 22% mewn cyfaint
- 60cc/ml o bersawr neu 250cc/ml o eau de toilette
- Gwerth £145 o nwyddau eraill gan gynnwys anrhegion a chofroddion
Mae cyfyngiadau ar faint o gynyrch tobacco y cewch gario yn ôl gyda chi heb dalu dyletswydd i’r Deyrnas Unedig o rai gwledydd yn yr UE.
O WERINIAETH TSIEC – 200 sigaret neu 250g o dobaco ar gyfer ei ysmygu neu 50 sigar neu 100 sigarilo.
Mae cyfyngiadau a gwaharddiadau ar gario rhai nwyddau am resymau iechyd ac amgylcheddol. Am fwy o wybodaeth ffoniwch Wasanaeth Cyngor Cenedlaethol ar 0845 010 9000.

Trolïau dal cesus
Mae trolïau dal cesus ar gael am ddim o fannau penodol y tu allan i’r brif derfynfa ac yn y derfynfa gyrraedd.
![[logo] Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd](/gfx/gfx_cwl_logo.gif)


