
Hanes y Maes Awyr
Mae hanes Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd yn ei safle presenol yn ymestyn dros 60 mlynedd, o’r 1940au cynnar pan benderfynodd y fyddin ddefnyddio tir ym Mro Morgannwg i sefydlu maes awyr lloeren yn ystod y rhyfel, a man hyfforddi i beilotiaid awyrennau "Spitfire" yr RAF. Roedd y maes awyr gwreiddiol wedi ei loeli ym Mhengam (Bae Caerdydd) rhwng 1931 a 1954. Yma y sefydlwyd ‘ Cambrian Airways’, cwmni awyrennau Cymreig oedd yn bwysig iawn i Faes Awyr Caerdydd am flynyddoedd, yn yr hen safle a’r safle newydd yn y Rhws. Dechreuwyd ar y gwaith adeiladu yn y safle presenol ym 1941, a dechreuodd y maes awyr wasanaethu yn swyddogol ar 7 Ebrill 1942 o dan reolaeth Uned Hyfforddi Gweithredol Rhif 53. Gwelwyd y potensial i ddefnyddio’r lllain lanio at bwrpas masnachol yn gynnar yn y 1950au, a dechreuod Aer Lingus wasanaeth i Ddulyn ym 1952. Adeiladwyd terfynfa newydd yn fuan wedyn, a dechreuwyd wasanaethau i Ffrainc, Belfast a Chorc. Gwelwyd gynnydd yn y teithiau siarter, a barodd i nifer y teithwyr oedd yn defnyddio’r maes awyr godi i dros 100,000 ym 1962.

Ym 1965, cafodd y maes awyr ei drosglwyddo o afael Y Weinyddiaeth Amddiffyn i Gyngor Sir Morgannwg. Gwelwyd y daith gyntaf dros Fôr yr Iwerydd ym 1971, a budsoddwyd ymhellach er mwyn datblygu’r derfynfa bresenol a’r twr rheoli. Mae’r llain lanio bellach wedi dyblu o ran maint i 7,000 o droedfeddi, sy’n ddigon mawr i alluogi awyrennau llydan godi a glanio yma.

Oherwydd newid i drefn llywodraeth leol yn ystod y 1970au, trosglwyddwyd y maes awyr i ofal tri Chyngor Sir, sef De, Canol a Gorllewin Morgannwg – olynwyr yr hen Gyngor Sir Morgannwg. Roedd teithiau siarter i’r Canoldir yn cynyddu yn eu poblogrwydd, a chododd nifer y teithwyr i 250,000 yn y 1980au cynnar. Sefydlwyd cysylltiad newydd hefyd rhwng Caerdydd a Chanada.

Ym 1986 cafodd y llain lanio ei hymestyn 750 troedfedd yn ychwanegol, am gost o tua £1 miliwn. Llwyddodd hyn i ddenu to newydd o awyrennau jet i’r maes awyr. Datblygwyd cysylltiadau dros yr Iwerydd, ac dechreuodd taith siarter i Florida, yn ogystal â'r teithiau i Ganada. Oherwydd yr estyniad, roedd y llain lanio bellach yn gallu cael ei ddefnyddio gan jetiau mawr 747, ac hynny oedd un o'r rhesymau pennaf dros sefydlu Canolfan Cynnal a Chadw British Airways ym Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd. Mae’r gwaith gyda’r mwyaf o’i fath yn y byd, ac yn gwneud gwaith cynnal a chadw hollbwysig i’r ffrâm ac i beirianneg llynges British Airways a’r holl gwmnïau eraill cysylltiedig.

Cafodd gwasanaethau rheolaidd y maes awyr hwb fawr ar ddechrau’r 1990, pan ddewiswyd Caerdydd yn gartref i brif ganolfan Ewropeaidd y cwmni awyrennau Manx, oedd yn cynnig gwasanaeth dyddiol i ganolfannau busnes pwysig ledled Prydain ac Ewrop. O ganlyniad, mewn blwyddyn, cynyddodd nifer y teithwyr ar deithiau rheolaidd i dros 100,000 am y tro cyntaf.

Cynyddodd nifer y teithwyr 22% i 743,219 erbyn diwedd y flwyddyn ariannol 1992/3. Roedd hyn o ganlyniad i fwy o ddewis o wasanaethau siarter a rheolaidd, yn ogystal â chynnydd sylweddol ym maint yr awyrennau, oedd yn eu galluogi i gario mwy o bobl. Dathlodd y maes awyr ei hanner can mlwyddiant ym 1992, a chynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau arbennig i ddathlu hanner can mlynedd o hedfan o Gaerdydd, gan orffen gydag ymweliad Brenhinol gan Ei Mawrhydi y Dywysoges Alexandra, a ddadorchuddiodd lechen i ddathlu'r achlysur.

Dechreuwyd mwy o waith adeiladu ar y maes awyr ym 1993, a’r nod oedd i ehangu’r derfynfa er mwyn gwneud lle i fwy o bobl, ac i wella'r adeilad yn gyffredinol er mwyn bod yn fwy effeithiol. Roedd y prosiectau yn cynnwys datblygu’r ardal cyn mynd drwy’r system ddiogelwch, ehangu a moderneiddio’r lolfa ymadael a newid trefn y ffyrdd sy’n arwain at y derfnynfa, gan adeiladu man diogelwch newydd wrth y fynedfa.


Yn Ebrill 1995, oherwydd newid i gynllun llywodraethau lleol yng Nghymru, cafodd y maes awyr ei wneud yn gwmni preifat, gyda chyfrandaliadau yn cael eu gwerthu i’r cwmni datblygu eiddo o Gymru, TBI Plc. Mae Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd yn ffynnu ers mynd yn gwmni preifat, ac mae bellach yn cael ei ystyried yn un o’r meysydd awyr rhanbarthol mwyaf llwyddiannus ym Mhrydain.
![[logo] Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd](/gfx/gfx_cwl_logo.gif)


