
Ffeithiau Allweddol
Ffeithiau Allweddol am Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd

Mae Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd (CWL) yn croesawu mwy na dwy filiwn o deithwyr bob blwyddyn, ac mae’r un nifer o gwmnïau awyrennau â sydd o gwmnïau gwyliau yn hedfan oddi yma. Yn 2006, roedd modd hedfan i 56 o gyrchfannau yn uniongyrchol o’r maes awyr, a dros 400 o gyrchfannau un-stop ledled y byd.

Yn 2006 budsoddwyd £7 miliwn i wella ac ehangu’r maes awyr, ar ben yr £20 miliwn o fudsoddiad sydd wedi ei wneud yma yn barod ers 1995. Ers 2003 mae Caerdydd wedi cael ei enwi yn un o’r deg maes awyr gorau ym Mhrydain ddwy waith yng Ngwobrau Teithio’r Terlegraph.

Mae’r pump cyrchfan fwyaf poblogaidd yn cynnwys:
- Amsterdam, yr Iseldiroedd
- Palma, Sbaen
- Caeredin, yr Alban
- Alicante, Sbaen
- Dulyn, yr Iwerddon

Hyd y llain lanio yw 2,392m o hyd a 46m o led ac ar gyfartaledd mae hyd at 25 awyren yn gallu codi a glanio bob awr. Mae hyd y llain lanio yn golygu mai Caerdydd yw’r unig faes awyr yng Nghymru a De Orllewin Lloegr sy’n gallu cynnig teithiau i gyrchfannau dros yr Iwerydd, gan gynnwys Florida, UDA, a gwasanaethau i Toronto yn nwyrain Canada, a Vancouver ar lan y Môr Tawel.

Mae awyrennau yn codi a glanio un ai dros y môr neu dros dir ffermio, sy’n golygu nad yw’r swn yn effeithio ar y gymuned leol. Mae Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd wedi ei leoli 220 troedfedd uwch ben y môr, ac o’r herwydd mae’r tywydd yma yn rhagori ar bob maes awyr arall trwy Brydain ar wahân i Faes Awyr Glasgow Prestwick. Mae hyn yn golygu ein bod yn gallu cynnig gwasanaeth dibynadwy i’n teithwyr bob amser.

Mae trafnidiaeth gyhoheddus yn cynnwys bysiau rheolaidd a gwasanaethau trên o orsaf Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd yn y Rhws. Os am fynd ar y trên, mae bws gwennol ar gael sy’n cario teithwyr o’w w r derfynfa i’r orsaf – taith sy’n cymryd tua pum munud.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn disgrifio’r ardal ble saif y maes awyr fel ardal sy’n arbennigo yn y diwydiant awyrennau, gan fod llawer o gwmnïau uchel eu parch yn y diwydiant wedi eu lleoli o fewn yr un cylch. Mae’r maes awyr ei hun wedi creu dros 1,000 o swyddi, a’i gyfraniad yn bwysig iawn i economi Cymru.

Cwmni Abertis sy’n berchen ar Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd.
![[logo] Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd](/gfx/gfx_cwl_logo.gif)


