
Gwybodaeth am Ffilmio a Ffotograffiaeth
COSTAU FFILMIO MASNACHOL A FFOTOGRAFFIAETH
Os nad ydych am fynd drwy’r System Ddiogelwch: £150 yr awr
- Ardaloedd cyhoeddus y maes awyr.
Os ydych am fynd drwy’r System Ddiogelwch: £250 yr awr
- Ardaloedd y mae gofyn mynd drwy’r System Ddiogelwch i’w cyrraedd.
Cael eich tywys: £100 i gael eich tywys am hyd at 4 awr
- Mae’n rhaid cael un person i dywys bob 6 o bobl os ydych am fynd drwy’r System Ddiogelwch.
- Mae’n bosibl y bydd yn orfodol i chi gael rhywun i’ch tywys,
neu gael staff y maes awyr yn bresennol, hyd yn oed os nad
ydych am fynd drwy’r System Ddiogelwch – yn dibynnu ar pa fath o
ffilmio neu ffotograffiaeth y byddwch am ei wneud.
Costau eraill
- Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu mwy os ydych yn gofyn am unrhywbeth ychwanegol e.e. cadw ystafelloedd ar gyfer y cast a’r criw. Bydd modd trafod a chytuno ar gostau o'r fath cyn i chi fynd ati i ddechrau ar y gwaith ffilmio neu ffotograffiaeth.
Gwaharddiadau
- Ni chaniateir ffilmio na thynnu lluniau o ardaloedd na staff diogelwch, na unrhyw broses yn ymwneud â diogelwch.
- Ni chaniateir ffilmio na thynnu lluniau o gwsmeriaid na staff heb drefnu â Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd a’r cwmni awyrennau/cwmni gwyliau/cwmni sy’n gyfrifol am yr awyren yn y maes awyr ymlaen llaw.
Gofynion
- O leiaf 7 diwrnod o rybudd.
- Copi o dystysgrif yswiriant cyfrifoldeb cyhoeddus (o leiaf £2 filiwn cyn mynd drwy’r System Ddiogelwch, a £40 miliwn ar ôl mynd drwy’r System Ddiogelwch).
- Cyfeiriad/manylion anfoneb.

Gwybodaeth bellach
Am wybodaeth bellach cysylltwch â:
Catrin Elis ar +44 (0)1446 712645 neu cliciwch yma i anfon e-bost.
![[logo] Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd](/gfx/gfx_cwl_logo.gif)


