
Polisi Elusennol
Pwrpas Apêl Elusennol
Polisi Maes Awyr Rhyngwladol Gaerdydd (CWL) yw rhoi cymorth i elusennau er mwyn bod yn rhan o’r gymuned, ac i gyd-fynd â’n cyfrifoldeb fel corfforaeth i’n cymuned. Y prif gyfraniad all CWL ei wneud i fod o gymorth yw dangos ein cefnogaeth trwy roi caniatâd i elusennau ddod i’r maes awyr i gasglu arian neu i godi ymwybyddiaeth am eu hachos. Mae CWL yn derbyn nifer fawr o geisiadau am gyfraniadau ariannol a nawdd yn flynyddol, ac er ein bod yn derbyn fod pob achos yn deilwng, ni all y maes awyr fod o gymorth i bawb.
Ysbyty Felindre yw elusen swyddogol y maes awyr eleni, ond rydym hefyd yn cefnogi elusennau eraill, gan amlaf trwy roi caniatâd iddynt gasglu arian yn y maes awyr. Rydym hefyd yn fodlon ystyried dulliau eraill o godi ymwybyddiaeth am achosion da.
Mae modd i elusennau ddefnyddio’r maes awyr i gasglu arian, ond rhaid gwneud trefniadau ymhell ymlaen llaw. Y maes awyr yn unig sy'n cael dewis pa ddyddiadau sy'n addas a pha mor aml y caiff yr elusen gasglu arian, ac mae’n bosibl i'r dyddiadau hynny gael eu newid neu eu gohirio. Mae gan y maes awyr hefyd yr hawl bob amser i wrthod gadael i’r elusen ddefnyddio'r maes awyr o gwbl.

Pwy sy’n cael gwneud cais i gasglu arian yn y maes awyr?
- Rhaid i bob sefydliad sy’n gwneud cais gofresru gyda’r Comisiwn Elusennau, a sicrhau eu bod yn elusen gofrestredig;
- Mae’n rhaid i’r elusennau brofi eu bod wedi derbyn clod a llwyddiant yn y gorffennol, ac mae’n rhaid dangos sut y mae De Cymru, a’r gymuned leol o amgylch y maes awyr yn benodol, wedi elwa o’u herwydd;
- Rhaid i’r elusennau ddangos eu bod wedi defnyddio’r arian at
bwrpas digonol, a chyflwyno copi o’u cyfrifon
diweddaraf.

Sut mae Elusennau yn cael eu dewis?
Unwaith mae’r ffurflen gais wedi ei llenwi, caiff ei hasesu a’i hystyried gan y tîm sy'n delio â cheisiadau. Os yw’r cais yn cael ei dderbyn fe fyddwn yn cysylltu â’r elusen i gadarnhau y dyddiadau a’r trefniadau.
Rydym yn ffafrio elusennau sy’n dilyn un o’r canllawiau canlynol, ond nid yw hynny’n rheidrwydd nac yn golygu na fyddem yn ystyried ceisiadau eraill.

Y canllawiau yw:
- Sicrhau fod rhywfaint o’r arian sy’n cael ei godi yn cael ei roi i’r gymuned leol;
- Sicrhau fod rhywfaint o’r arian sy’n cael ei godi yn cael ei roi i Dde Cymru;
- Bod yr achos yn berthnasol i bobl sy’n defnyddio’r maes awyr / neu i drafnidiaeth awyrennau;
- Y gallu i fod yn rhan o weithgareddau lleol yn y gymuned;
- Gallu a bod yn fodlon i fod yn rhan o unrhyw gyhoeddusrwydd y mae’r maes awyr yn ei gael gan y wasg.

Pwy sy’n gwneud y penderfyniad?
Pwyllgor Elusennol y maes awyr fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ynglyn â pha elusen fydd yn derbyn cefnogaeth gennym. Bydd y canllawiau uchod yn cael eu hystyried wrth wneud y penderfyniad, yn ogystal â’r wybodaeth ar eich ffurflen gais.
Ni fydd CWL yn rhoi rhesymau pam na ddewiswyd ceisiau aflwyddiannus, ac ni fydd y maes awyr yn fodlon cael trafodaeth am y dewis a wnaethpwyd.

Sut all Elusen elwa o gasglu arian yn y maes awyr?
Mae sawl mantais i gasglu arian ym Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd, gan gynnwys:
- Cyfle i elusennau godi ymwybyddiaeth am eu gwaith;
- Addysgu a rhoi gwybodaeth i gynulleidfa sy’n barod i wrando, ac yn barod i gyfrannu, am faterion cymdeithasol;
- Rhoi gwybodaeth drylwyr ac awdurdodol i'r cyhoedd am achosion da iddynt eu cefnogi;
- Codi arian at achosion da ac annog pobl i gyfrannu;
- Rhoi cyfle i elusennau gael cyhoeddusrwydd a sefydlu pethynas â'r wasg.

I wneud cais...
Cwblhewch y ffurflen gais sydd wedi ei hatodi, gan anfon un copi i’r cyfeiriad isod, ynghyd â’r dogfennau canlynol:
- Tystiolaeth o’r statws elusennol, h.y copi o’r adroddiad a wnaethpwyd gan y Comisiwn Elusennau;
- Copi o’r Cyfrifon Blynyddol diweddaraf.
Anfonwch y ffurflen wedi ei cwblhau i:
Pennaeth y Pwyllgor Elusennol
Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd
Bro Morgannwg
CF62 3BD
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ffoniwch 01446 711111 neu e-bostiwch marion.williams@cwl.aero

![[logo] Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd](/gfx/gfx_cwl_logo.gif)


