
Trefnu Taith Siarter Bersonol
Mae’n well gan lawer o deithwyr, yn arbennig felly deithwyr busnes, deithio ar awyren siarter eu hunain, gan eu bod yn effeithiol ac yn hyblyg.
Mae gwasanaeth o’r fath yn rhoi’r cyfle i hedfan ar amseroedd addas i chi, ymweld â sawl lleoliad mewn diwrnod, ac yn rhoi cyfle i deithio i lefydd gwahanol i’r hyn sydd gan gwmnïau awyrennau i’w gynnig.
Mae Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd yn cynnig dau gyfle gwerthfawr yn y sector awyrennau corfforaethol a phreifat.
Mae gan Dragonfly awyren foethus ddwy injan Beech Super King Air 200. Gall yr awyrennau hyn godi a glanio yn y rhan fwyaf o’r cannoedd o feysydd awyr sydd ym Mhrydain ac Ewrop sydd â’r adnoddau glanio a diogelwch angenrheidiol ar gyfer awyrennau masnachol. Gyda phedwar person ar ei bwrdd, a phob un â bag 20kg, gall yr awyren deithio 950 o filltiroedd.
Ewch i www.dragonflyac.com neu ffoniwch 01446 711144.
Signature Flight Support, un o gwmnïau BBA Aviation plc, yw’r rhwydwaith dosbarthu mwyaf yn y byd ar gyfer gwasanaethau hedfan ar fusnes sy’n gweithredu o un safle sefydlog (FBO).
Mae gan y cwmni derfynfa arbennig yn y maes awyr, ac mae’n
cynnig cyfleusterau megis rheoli awyrennau, cynllunio taith,
rhagolygon tywydd cyfrifiadurol, lolfa i’r peilotiaid gyda
llyfrgell fideo a gwasanaeth VIP i’r teithwyr.
Ewch i www.signatureflight.com neu ffoniwch 01446 712637.
![[logo] Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd](/gfx/gfx_cwl_logo.gif)


