
Ynglyn â Chymru
Mae Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd yn gwasanaethu’r brif ddinas ieuengaf yn Ewrop - Caerdydd, yn ogystal â phob cwr o Gymru.
Saif Cymru yng ngorllewin y Deyrnas Unedig, ac er ei bod yn wlad
fechan, mae ganddi dros 750 milltir o arfordir, mwy na 500 o
lynnoedd a chronfeydd dwr, tri pharc cenedlaethol a thoreth o
fynyddoedd rhyfeddol.
Yn falch o’i gwreiddiau Celtaidd, gwarchodwyd nifer helaeth o’n
safleoedd hanesyddol, adfeilion Rhufeinig, dros 400 o gestyll
ynghyd ag enghreifftaiu rhagorol o fyd diwydiant y gorffennol.
Mwy o wybodaeth yn y dolenni hyn.
O’r gwreiddiau hanesyddol yma y tyfodd y Cymry yn bobl falch, angerddol a chynnes. Yn arbennig o hoff o gerddoriaeth a chwaraeon - rygbi yn bennaf – mae croeso twymgalon y trigolion tuag at ymwelwyr yn ddiarhebol. Yn wir, un o’u caneuon mwyaf poblogaidd yw 'We’ll keep a welcome…’
O’r dewin Myrddin a’r Brenin Arthur hyd at y Manic Street Preachers, bu Cymru’n fagwrfa i sawl cymeriad enwog dros y canrifoedd, ac mae sêr yfory i’w gweld heddiw mewn canolfan gelfyddydau neu far yn y trefi a’r dinasoedd Cymreig.
Mae economi Cymru yn tyfu o ganlyniad i ddoniau a sgiliau’r
gweithlu. Gwelir datblygiadau newydd a chyffrous yn tyfu yn y prif
ddinasoedd sef Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd, yn ogystal â nifer
o’r ardaloedd diwydiannol hanesyddol, gydag entrepreneuriaid
brodorol ynghyd â chorfforaethau rhyngwladol yn cyd-fyw a
chyd-weithio gyda’i gilydd.
Yr un yw’r hanes yn y byd addysg yng Nghymru, gyda nifer o
sefydliadau addysgiadol yn denu myfyrwyr o bob cwr o’r byd yn sgil
eu henw da ar y llwyfan rhyngwladol.
Dilynwch y dolenni hyn i wybod mwy am fusnes ac addysg yng Ngymru.
Mae gan Gymru rywbeth i’w gynnig i bawb, ac mae’r maes awyr cenedlaethol yn borth allweddol i’r wlad unigryw hon. A beth am ddechrau yn y brifddinas ei hun? Mae’r Cynulliad Cenedlaethol, yr amgueddfa, stadiwm chwaraeon a theatr orau’r wlad ymhlith y nifer o atyniadau sydd i’w canfod yng Nghaerdydd. Hawdd deall felly pam bod y rhan fwyaf o deithwyr yn anelu’n syth o’r maes awyr am ganol dinas Caerdydd i ddechrau profi gogoniant Cymru.
Cliciwch yma i ddarganfod mwy.
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am lety yng
Nghaerdydd.
Os yn dod i Gymru i fwynhau neu ar fusnes, Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd yw’r fynedfa fwyaf cyfleus, a gellir hedfan yma, yn uniongyrchol neu trwy gyswllt un-stop, o ddinasoedd o bob cwr o’r byd.
![[logo] Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd](/gfx/gfx_cwl_logo.gif)


