Newid i'r drefn barcio tymor byr
12 Tachwedd 2008
Mae gwaith adeiladu yn mynd ymlaen ym maes parcio arhosiad byr Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd.
O'r herwydd bydd pawb sydd am barcio am gyfnod byr ar wahân i barcio anabl, gyrrwyr sy'n casglu teithwyr a gyrrwyr sy'n dychwelyd ceir y maent wedi eu llogi yn cael eu cyfeirio i'r maes parcio arhosiad hir 2.
Fe fydd y prisiau yr un fath ag yn y maes parcio archosiad byr, a gellir talu wrth ddesg NCP sydd wedi ei lleoli yn y derfynfa gyrraedd.
Ni fydd newid i'r drefn o ollwng teithwyr o flaen y brif derfynfa.
Hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleuster y mae hyn yn ei achosi.
![[logo] Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd](/gfx/gfx_cwl_logo.gif)



