Cynhadledd Cymru a'r Byd
07 Hydref 2008
CYMRU A'R BYD
Holiday Inn, Caerdydd
Dydd Llun 20 Hydref 2008
Prif Siaradwr: Y Gwir Anrhydeddus Rhodri Morgan, Prif Weinidog,
Llywodraeth Cynulliad Cymru
Yn yr unfed ganrif ar hugain, gyda newid yn yr hinsawdd a chyfathrebu yn gefndir bydeang i faterion yr amgylchedd, datblygu economaidd, diwylliant a chwaraeon, mae cyfleoedd newydd sbon i genhedloedd bychain chwarae eu rhan ar lwyfan y byd.
Fel y nodir yng nghytundebclymblaid Cymru’n Un rhwng Llafur a Phlaid Cymru, “Mewn economi fydeang, y lleoedd a fydd yn ffynnu yn y dyfodol yw’r lleoedd hynny, sy’n cynnig yr ymdeimlad cliriaf o sefydlogrwydd, cynaliadwyedd a hunaniaeth. Mewn oes lle mae gwybodaeth yn teithio o gwmpas y byd mewn nano-eiliadau, nid oes gwahaniaeth a yw eich desg yn Hirwaun neu Honolulu, Singapore neu Splott, atyniadau’r asedau naturiol lleol – yr arfordir a’r hinsawdd, graddfa a seilwaith diwylliannol – a fydd yn rhoi’r fantais economaidd.”
Bydd y gynhadledd hon yn gofyn pa gyfleoedd a rydd y degawd nesaf i ni i ddatblygu dull mwy strategol o roi Cymru ar fap y byd. Beth fydd hyn yn ei olygu? A ydym yn cyflawni’n uwch neu’n is na’n potensial y tu hwnt i’n ffiniau? Pa amcanion ddylem osod i’n hunain ym myd busnes, y byd academaidd, byd diwylliant a byd chwaraeon? I ba raddau y gall Cymru ddatblygu ei hagwedd ei hun ar ddiplomyddiaeth ryngwladol?
Rhaglen:
|
9.00am Coffi a Chofrestru 9.45am Croeso gan Patrick Duffy, 10.00am Rhoi Cymru ar y Map 10.30am Coffi 11.00am SESIWN MEWN GRWPIAU (i) Ymwneud â’r Economi Fydeang (ii) Academi Fydeang Cymru (iii) Rhaglen Cymru o Blaid Affrica 11.45pm SESIWN LAWN 12.15pm Egwyl 12.30pm Cinio |
2.00pm SESIWN LAWN Y Brand Cymreig – Cysylltu’r Roger Pride, Pennaeth Marchnata, 2.30pm SESIWN MEWN GRWPIAU (i) Sut All Diwylliant greu Llwyfan i Eluned Haf, Cyfarwyddwr, Celfyddydau (ii) Rôl Rygbi wrth Gyflwyno Cymru i’r Roger Lewis, Prif Weithredwr, Undeb 3.15pm SESIWN LAWN 3.45pm Paraddiplomyddiaeth Dr Elin Royles, Sefydliad Gwleidyddiaeth 4.15pm Trafodaeth 5.00pm Te a Gadael |
Am fwy o wybodaeth ac am fanylion cofrestru a thalu ewch i www.iwa.org.uk neu anfonwch neges e-bost i wales@iwa.org.uk.
![[logo] Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd](/gfx/gfx_cwl_logo.gif)



