Gwefan ddwyieithog y Maes Awyr
29 February 2008
Ar Ddydd Gwyl Dewi eleni bydd un o wefannau mwyaf poblogaidd Cymru yn sefydlu gwasanaeth dwyieithog, sef gwefan Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd, cwlfly.com
Wedi cyrraedd hafan y wefan, bydd modd cael gwybodaeth gyflawn am y Maes Awyr yn y Gymraeg neu'r Sesneg drwy glicio ar y faner berthnasol. Bydd tudalennau yn cynnig cyngor am ddiogelwch, y teithiau sydd ar gael, cyrraedd y Maes Awyr a llawer mwy.
Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr Patrick Duffy: "Gan mai ni ydy Maes Awyr cenedlaethol Cymru, mae'n bwysig ein bod yn manteisio ar bob cyfle i adlewyrchu'r diwylliant Cymraeg, ac mae ehangu'r defnydd o'r iaith Gymraeg o fewn y Maes Awyr, yn ein cyhoeddiadau ac ar y wê yn flaenoriaeth".
Cliciwch yma os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglyn â'r wefan.
![[logo] Cardiff international Airport](/gfx/gfx_cwl_logo.gif)



