Gwefan dairieithog i Highland Airways!
14 March 2008
Awyrlu yn lansio'r wefan gyntaf a fydd yn darparu ar gyfer teithwyr sy'n siarad Gaeleg, Cymraeg neu Saesneg.
Mae Higland Airways, a leolir yn Inverness, wedi taro deuddeg gyda'r wefan dairieithog gyntaf, sy'n caniatáu i gwsmeriaid Cymraeg, Gwyddeleg a Saesneg archebu teithiau awyren ar y we yn eu hiaith eu hunain.
Wedi buddsoddi dros £10,000 mae'r wefan newydd, highlandairways.co.uk yn cael ei lansio heddiw (dydd Iau 13 Mawrth 2008) gan ein cyfarwyddwr masnachol, Basil O'Fee, yn ystod ei araith i'r wasg ym Maes Awyr Caerdydd.
"Rydym yn gwasanaethu cwsmeriaid busnes a hamdden ar ymylon y D.U. lle mae ein hieithoedd brodorol yn parhau i ffynnu. Roedd cyfieithu ein gwefan i'r Aeleg a Chymraeg yn benderfyniad naturiol i ni.
"Dros y chwe mis diwethaf mi fuon ni'n cydweithio'n agos â Bwrdd yr Iaith Gymraeg a'r Comunn na Gaidhlig a phobl frwdfrydig eraill, i gyfieithu dros 40,000 o eiriau ar 100 tudalen gwahanol.
"Rydym yn ymwybodol fod pawb yn gwerthfawrogi trafod busnes yn eu hiaith gyntaf, ac rydym yn falch o allu ehangu'r cwrteisi hwn i gwsmeriaid yng Nghymru ac yn yr Alban. Nid oes llawer o fusnesau mewn sefyllfa debyg i ni, yn gweithredu mewn mwy nag un wlad Geltaidd, a'r cyrchfannau prydferth sydd i'w canfod yno.
Mae Highland Airways yn cynnig gwasanaethau dyddiol yn ystod yr wythnos waith rhwng Inverness, Stornoway a Benbecula a rhwng Caerdydd ac Ynys Môn. Byddwn yn lansio gwasanaeth newydd yn Oban, Coll, Colonsay a Tiree, hefyd.
Mae Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyhoeddus yn perthyn i bob taith, sy'n golygu ein bod yn cael ein hadnabod fel cysylltiadau awyr hanfodol sydd yn deilwng i gael cymhorthdal gan y Cynulliad Cenedlaethol neu Awdurdodau Lleol perthnasol.
Yn ystod ei araith, edrychodd Mr O'Fee ymlaen at ben-blwydd cyntaf y daith awyren rhwng Caerdydd ac Ynys Môn.
Ers i Highland Airways gydweithio â Maes Awyr Caerdydd, Cyngor Sir Ynys Môn a Croeso Cymru ar gyfer y lansiad ym mis Mai 2007, mae cyfartaledd o dros 80% o'r seddi wedi'u gwerthu ar gyfer y teithiau, sy'n fwy nag a ddisgwyliwyd.
"Mae tua 14,000 o deithwyr wedi defnyddio'r gwasanaeth yn ystod ei flwyddyn gyntaf, bron 5,000 yn fwy na'r hyn a ddisgwyliwyd. Mae'r gwasanaeth wedi gwella'r dewis o deithiau o fewn Cymru sydd yn arddangos pa mor rymus y gall hedfan fod wrth feddwl am drawsnewid cysylltedd.
Yn barod mae rhai'n ystyried a ddylem gynnig mwy o amseroedd hedfan neu ddefnyddio awyren mwy o faint, sydd yn sefyllfa dda iawn i ni!"
![[logo] Cardiff international Airport](/gfx/gfx_cwl_logo.gif)



