Blwyddyn o hedfan rhwng y de a'r gogledd
09 May 2008
Blwyddyn yn ddiweddarach ac yn dal i hedfan yn uchel!!
Roedd y Dirprwy Brif Weinidog Ieuan Wyn Jones yn hedfan o Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd i Faes Awyr Môn, Ynys Môn heddiw i ddathlu pen-blwydd cyntaf y cyswllt awyr rhwng y gogledd a'r de.
Mae'r gwasanaeth, sy'n cael ei weithredu gan gwmni Highland Airways, wedi cludo dros 14,000 gwsmeriaid ers ei daith gyntaf ar 8 Mai y llynedd. Rhwng dydd Llun a dydd Gwener mae'n darparu dau wasanaeth dwy ffordd y dydd rhwng Maes Awyr Môn yn Ynys Môn a Maes Awyr Caerdydd.
Cafwyd ddathliadau ar y ddwy ochr. Yma yng Nghaerdydd fe fu Côr Aelwyd y Waun Ddyfal yn canu i'r teithwyr oedd yn cofrestru i fynd ar y daith yn gynnar y bore, a rhannwyd cacen benblwydd a shampên i deithwyr yn y neuadd gofrestru.
Yn ôl Mr Ieuan Wyn Jones, sydd hefyd yn Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth:
"Mae'r gwasnaeth hwn wedi bod yn llwyddiant mawr ac mae wedi curo ein holl ddisgwyliadau. Mae'r galw yn adlewyrchu'r angen sydd am y cyswllt hwn, datblygiad pwysig sy'n gwasanaethau marchnadoedd busnes a hamdden yng Nghymru.
"Mae rhwydweithiau trafnidiaeth effeithiol a hwylus yng Nghymru yn hanfodol i annog menter ac i gefnogi twf economaidd. Mae'r gwasanaeth awyr yn cysylltu cymunedau Cymreig a busnesau ac mae'n chwarae rhan bwysig yn tynnu'r genedl at ei gilydd, yn unol â'r uchelgeisiau yr ydym wedi'u pennu yn nogfen 'Cymru'n Un'."
Dewisodd Llywodraeth Cynulliad Cymru gwmni Highland Airways i ddarparu'r gwasanaeth. Mae'r daith o Ynys Môn yn cymryd oddeutu awr tra bo Maes Awyr Caerdydd yn cymryd tua 25 munud o ganol y brifddinas mewn car neu ar drên.
Dywedodd Colin Munro, Rheolwr Datblygiadau Busnes Highland Airways:
"Rydym wedi cael ein synnu cymaint sydd wedi bod yn defnyddio'r gwasanaeth. Mae nifer y teithwyr y tu hwnt i'n holl ddisgwyliadau. Rydym wedi wynebu sawl her i wneud i'r gwasanaeth newydd hwn lwyddo. Fodd bynnag, mae'n bosibl ein bod yn wynebu her hyd yn oed yn fwy wrth geisio diwallu'r galw mawr sydd i deithio o fewn Cymru."
Cefnogi busnesau
Mae'r gwasanaeth wedi rhoi hwb sylweddol i fusnesau. Asiantaeth gyfathrebu ddwyieithog yw Cambrensis sydd â swyddfeydd yng Nghaerdydd ac yng Nghaernarfon. Mae'r pellter sydd rhwng y gogledd a'r de yn rhywbeth o'r gorffennol bellach i gwmni sydd, flwyddyn yn ddiweddarach, yn dal i ddefnyddio gwasanaeth awyr Caerdydd-Ynys Môn yn rheolaidd.
Dywedodd Rhodri Ellis Owen, Cadeirydd cwmni Cambrensis:
"Mae'r llwybr hwn yn sicr yn hwb i ni fel busnes. Nid oes teimlad o bellter yn gwahanu'r ddwy swyddfa a gallwn gynnig gwasnaeth 'Byddwn ni yno pan rydych chi ein hangen ni' i'n cleientiaid yn y gogledd a'r de. Erbyn hyn, rwy'n gallu bod mewn cyfarfodydd neu ddigwyddiadau yn y gogledd yn y bore ac, os oes angen, bod yn ôl yng Nghaerdydd yr un diwrnod, wedi dadflino."& amp; amp; lt; /p>
"Fel cwmni bach, nid yn unig mae defnyddio'r gwasnaeth hwn yn arbed amser a chostau sylweddol i ni ond mae aelodau'r staff yn teimlo ei fod yn ffordd llawer brafiach a hwylus o deithio rhwng dau begwn Cymru. Gallaf hefyd ddweud bod y gwasanaeth bob tro ar amser ac mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn ei gymryd yn ganiataol erbyn hyn ac yn gallu dibynnu arno," ychwanegodd Mr Ellis Owen.
Cadw teuluoedd mewn cysylltiad
Mae Eirian Roberts yn hyfforddwraig chwaraeon a dawns o Ynys Môn. Yn ddiweddar, fe deithiodd gyda'i nain ar y gwasanaeth awyr i Gaerdydd i ddathlu ei phen-blwydd yn 90 oed.
Dywedodd Eirian: "Fe benderfynais fynd â Nain ar awyren i Gaerdydd i ddathlu ei phen-blwydd yn 90 oed. Byddai'r daith yn rhy faith mewn car neu ar y trên ac roedd hi bob amser eisiau hedfan. Roedd y staff yn rhagorol a chefais gymorth ganddynt gyda'r trefniadau teithio. Ar y diwrnod, roeddent yn gymwynasgar iawn a chafodd Nain ei thrin fel brenhines ac fe wnaeth hyn y diwrnod hyd yn oed yn fwy rhagorol.
"Mae'r derfynfa yn y Fali yn lân iawn ac yn cael ei rhedeg yn rhagorol. Cafodd fy nain gymorth i fynd ar yr awyren ac i ddod oddi arni mewn dull proffesiynol iawn ac ers hynny, mae hi wedi dweud cymaint wnaeth hi fwynhau'r diwrnod. Roedd y daith ar yr awyren yn gyfforddus iawn ac ar amser.
"Ar ôl gweld mor rhwydd yw hi i hedfan rhwng Ynys Môn a Chaerdydd, rwyf wedi penderfynu bwcio'r awyren gyfan yn nes ymlaen yn y flwyddyn. Rwy'n bwriadu mynd â'm myfyrwyr dawns i Gaerdydd ar ddydd Gwener ac yna hedfan yn ôl ar ddydd Llun.
"Ers ein trip, rwyf wedi bod yn argymell y cwmni hedfan i bawb, mae'r gwasanaeth yn rhagorol, mae'n gymaint o linell gyswllt i ogledd Cymru ac rwy'n gobeithio y bydd yn para yn yr hirdymor."
Dros 30 o flynyddoedd yn ôl, fe symudodd David Jones o Ynys Môn i Lanelli ac mae'n defnyddio'r cyswllt rhwng y gogledd a'r de i ymweld â'i rieni rhwng chwech ac wyth gwaith y flwyddyn.
Dywedodd Mr Jones:
"Mae'r gwasanaeth hwn yn rhagorol. Rwy'n ymweld â'm rhieni unrhyw amser o'r flwyddyn ac rwy'n sylwi bod teithio mewn awyren yn lleihau fy amser teithio yn fawr iawn, yn enwedig pan mae'r tywydd yn ddrwg. Pan oeddwn i'n arfer gyrru o Lanelli i'm cartref, roedd yn cymryd rhwng pedair awr a hanner a phum awr a hanner ac roeddwn yn cyrraedd yno wedi blino'n lân. Nawr, rwy'n gallu gadael y ty am hanner awr wedi pump, cofrestru am hanner awr wedi chwech a chyrraedd cartref fy rhieni cyn naw wedi dadflino."
Llun: O'r chwith i'r dde, Patrick Duffy, Rheolwr Gyfarwyddwr Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd; Y Dirprwy Brif Weinidog Ieuan Wyn Jones a Colin Munro, Rheolwr Datblygiadau Busnes Highland Airways.
![[logo] Cardiff international Airport](/gfx/gfx_cwl_logo.gif)



