Driving to the airport/ Gyrru i’r maes awyr
30 June 2007
If you are driving to Cardiff International Airport, you will find that there are enhanced security measures on the approach roads.
Please allow plenty of time for your journey as you may be delayed by these measures. Security personnel will direct your vehicle when you arrive.
It is not possible to drive to the front of the terminal building. If you are picking up or dropping off passengers, you must go to the short term car park which is just a short walk from the terminal. The first 20 minutes of your stay in the car park will be free.
Please do not pick up/drop off on approach roads as this may create traffic congestion and will also mean a longer walk for your passengers.
Cardiff International Airport would like to thank its customers for their patience and goodwill during this period of enhanced security.
Os ydych yn gyrru i Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd, fe sylwch fod mesurau diogelwch ychwanegol ar waith ar y ffyrdd cyfagos.
Sicrhewch ddigon o amser ar gyfer eich siwrnai gan ei bod yn bosibl y bydd oedi o ganlyniad i'r mesurau hyn. Bydd personél diogelwch yn eich cyfeirio pan gyrhaeddwch.
Nid oes modd gyrru i flaen y derfynfa. Os ydych yn codi neu yn gollwng teithwyr, mae gofyn i chi fynd i'r maes parcio arhosiad byr, sydd yn agos at y derfynfa. Cewch barcio yno am ddim am yr ugain munud cyntaf.
Peidiwch â chodi na gollwng neb ar y ffyrdd cyfagos os gwelwch yn dda, gan y gallai hyn achosi problemau traffig, a hefyd yn golygu taith bellach i'r teithwyr ar droed.
Hoffai Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd ddiolch i'r cwsmeriaid am eu hamynedd a'u hewyllys da yn ystod y cyfnod hwn o gynnydd mewn mesurau diogelwch.
![[logo] Cardiff international Airport](/gfx/gfx_cwl_logo.gif)



